Mae’r Gynghrair Ynni Alltraeth (OEA) yn glwstwr o gadwynni cyflenwi ynni alltraeth newydd ei greu ar gyfer rhanbarth Gogledd Cymru, Gogledd Orllewin y DU.
Mae’r Gynghrair yn gydweithfa o bartneriaid cyhoeddus a phreifat sy’n cydweithio o dan un ymbarél i hyrwyddo cyfranogaeth ehangach yn y sectorau gwynt alltraeth a sectorau adnewyddadwy eraill.
Mae’r clwstwr wedi ei greu o dri phrif ‘is-ranbarth’: Gogledd Cymru, Glannau Mersi a Cumbria, ond mae ei ddull rhydd a chynhwysol yn golygu bod croeso i ymgysylltiad ar draws amrywiaeth o dechnolegau a lleoliadau. Mae’r clwstwr wedi ei gysylltu’n uniongyrchol ag ymrwymiadau a wnaed rhwng Llywodraeth y DU a Diwydiant yn 2019 a chafodd ei sefydlu yn rhan o ymrwymiadau Cytundeb Sector Gwynt Alltraeth Fy DU
Ein huchelgais yw cefnogi twf ynni cynaliadwy, carbon isel o amgylch ein glannau er mwyn sicrhau'r manteision mwyaf posibl i gymunedau lleol fel rhan o'r daith genedlaethol i Sero Net.
Defnyddiwch y porth cofrestru i gofrestru a chael y wybodaeth ddiweddaraf.
cofrestrwch nawr +