Aelodaeth & Cyfranogi

Mae rhestr lawn o Bartneriaid OEA i'w gweld yma.

Yn dilyn ymgynghoriad ymhlith sefydliadau allweddol o fewn y rhanbarthau dan sylw, roedd yn amlwg y dylai'r OEA (cymaint â phosibl) osgoi dod yn endid sy'n seiliedig ar aelodaeth/ffioedd a sicrhau cyfranogiad cynhwysol am ddim i'r gadwyn gyflenwi leol, cwmnïau sgiliau ac arloesi ynghyd ag eraill sy'n ceisio elwa o weithgareddau'r clwstwr.

Felly, mae partneriaid rhanbarthol y Gynghrair yn gweithio i gymeradwyo model lle mae pob un ohonynt yn gwneud cyfraniad (ariannol neu mewn nwyddau) i gadw'r clwstwr yn rhedeg. Yn ogystal, bydd Hyrwyddwyr Pwnc (a benodir o'r gadwyn gyflenwi leol) yn talu ffi fach iawn ac yn dod i arwain eu pwnc ffrwd waith penodedig ar ran y rhanbarth – gan chwarae rôl gynghori allweddol, arwain lobïo a gweithgareddau eraill fel gweminarau er mwyn helpu i wella ymwybyddiaeth a hwyluso cynnydd. I bawb arall sy'n dymuno ymuno â'r clwstwr ac ymgysylltu, bydd hyn yn gwbl rhad ac am ddim.

Cofrestrwch heddiw

Defnyddiwch y porth cofrestru i gofrestru a chael y wybodaeth ddiweddaraf.

cofrestru eich manylion +