Pam Gwynt ar y Môr?

Mae targedau Llywodraeth y DU a thargedau Llywodraeth Cymru’n cefnogi twf gwynt alltraeth, gan ymrwymo i weddnewid ein system ynni yn rhan o’r ymdrech i ostwng allyriadau ac addasu i’r newid yn yr hinsawdd. Am ei bod yn ynys, mae gan y DU y potensial i gynhyrchu mwy o adnoddau ynni alltraeth yn cynwys gwynt, llanw a môr, sydd yn eu tro yn hwyluso cyfleoedd fel hydrogen gwyrdd.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae gwynt ar y môr wedi cael ei wneud yn brif flaenoriaeth mewn polisi ynni gyda thargedau, uchelgais a buddsoddiad yn cynyddu drwy'r amser. Mae gan wynt ar y môr gynlluniau amlwg i ddarparu o leiaf 50GW o'n hanghenion trydan yn y dyfodol.

Yn ogystal â’r gwynt, mae’n bosib adeiladu prosiectau eraill yn y môr yn rhan o’r ‘jig-so’ o atebion a fydd yn darparu amrywiaeth, diogelwch a gwytnwch. Am fod gan y rhanbarth Gogledd Cymru Gogledd Orllewin uchelgeisiau sero net blaen a chanol ac uchelgeisiau i Godi’r Gwastad ar draws y DU, gall y rhanbarth hwn gael ei gefnogi i sicrhau ei fod yn cael ei gyfran deg o’r buddion.