Cynghrair Ynni ar y Môr yn cyd-gynnal digwyddiad traws-sector gyda Fforwm Niwclear Cymru

Ddydd Iau 5 Medi, fe wnaethom gyd-gynnal digwyddiad rhwydweithio cadwyn gyflenwi traws-sector mewn cydweithrediad â Fforwm Niwclear Cymru.

Gan gydnabod y cyfleoedd cydweithredol rhwng y ddau sector, roedd y digwyddiad hwn yn caniatáu i fusnesau o bob rhan o gadwyn gyflenwi niwclear Cymru a chadwyn gyflenwi ynni alltraeth Gogledd Cymru a Gogledd-orllewin Lloegr ehangu eu rhwydwaith a ffurfio cysylltiadau gwerthfawr. Rydym yn cydnabod y cyfleoedd cydweithredol o bob rhan o'r ddau sector a ledled Cymru a'r Gogledd-orllewin. Edrychwn ymlaen at ddod â'r ddwy gadwyn gyflenwi ynghyd eto yn y dyfodol agos – gan helpu i wneud y mwyaf o'r manteision a'r cyfleoedd cydweithredol rhwng y ddau sector.

Diolch i holl noddwyr ac arddangoswyr y digwyddiad, Hutchinson, M-Sparc, Animated Technologies a Hinkley PSG.

RHANNU AR