Mae'r OEA yn chwarae rhan ganolog wrth ddod â rhanddeiliaid diwydiant a rhanbarthol ynghyd, gan helpu i ddatgloi cyfleoedd yn y gadwyn gyflenwi a gyrru twf hirdymor ynni alltraeth ledled Gogledd Cymru a Gogledd-orllewin Lloegr. Ifer yw Pennaeth Cyfathrebu a Materion Allanol yn JERA Nex bp, datblygwyr Fferm Wynt Alltraeth Mona 1.5GW, a wnaeth gytundeb prydles gydag Ystad y Goron yn gynharach eleni.
Bu Ifer yn Bennaeth Cyfathrebu Rhanddeiliaid yn Horizon Nuclear Power yn flaenorol. Yn gynharach yn ei yrfa, bu hefyd yn gweithio i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, gan ddatblygu ei ddull o ddatblygu cynaliadwy a gweithio mewn partneriaeth. Mae ei gefndir yn cwmpasu ymgysylltu â rhanddeiliaid, cyfathrebu a datblygu prosiectau seilwaith ynni mawr.
Ochr yn ochr â'i waith proffesiynol, mae Ifer yn wirfoddolwr gyda'r RNLI, gan wasanaethu fel aelod o'r criw, swyddog y wasg a Chadeirydd Gorsaf Bad Achub Cricieth.
Dywedodd Ifer Gwyn :
“Mae’n anrhydedd i mi ymgymryd â’r rôl hon ar adeg hollbwysig i ynni ar y môr. Mae gan y sector ran hanfodol i’w chwarae wrth ddarparu ynni glân a diogel, gan gefnogi twf economaidd a chymunedau arfordirol ledled Gogledd Cymru, Gogledd-orllewin Lloegr a’r DU yn ehangach. Edrychaf ymlaen at weithio gyda phartneriaid ledled y rhanbarth i sicrhau ein bod yn manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd hyn ac yn adeiladu cadwyn gyflenwi ynni ar y môr gref a gwydn.”
Dywedodd Helen K Thomas, Cyd-gadeirydd y Gynghrair Ynni Alltraeth ac Arweinydd Tîm Datblygu’r Gadwyn Gyflenwi, y DU ac Iwerddon yn RWE:
“Rwy’n falch iawn o groesawu Ifer fel Cyd-gadeirydd y Gynghrair Ynni Alltraeth. Bydd ei brofiad ar draws prosiectau ynni mawr, ymgysylltu â rhanddeiliaid a chydweithio rhanbarthol yn amhrisiadwy wrth i ni barhau i dyfu
datblygu a chyflawni strategaeth yr OEA, yn unol â Chynllun Twf Diwydiannol Ynni Gwynt ar y Môr . Edrychaf ymlaen at weithio ochr yn ochr ag Ifer, aelodau'r OEA a Phartneriaid yn y diwydiant dros y misoedd nesaf.”

DYDD MAWRTH 09 MEHEFIN
