Ymgysylltu â’r Sector Ynni Gwynt ar y Môr 2025

Amcangyfrifodd adroddiad Glasbrint Ystad y Goron y bydd rhaglen 4.5GW y Môr Celtaidd yn darparu gwerth ychwanegol gros o £1.4 biliwn i economi’r DU, a chyfartaledd o 5,300 o swyddi.

Mae’r Holiadur a’r Arolwg Syniadu’r Farchnad, Ymgysylltu â’r Sector Ynni Gwynt ar y Môr 2025, yn rhan o raglen ymgysylltu â’r farchnad Llywodraeth Cymru i ddeall galluoedd, capasiti ac archwaeth cadwyn gyflenwi Cymru. Mae hwn yn gyfle arwyddocaol, gan fod y sector ynni gwynt ar y môr yn tyfu’n gyflym, a bod busnesau ledled Cymru yn cael cyfle i gymryd rhan ar sawl lefel. Efallai bod gennych arbenigedd mewn meysydd na fyddech yn draddodiadol yn eu cysylltu â gwynt ar y môr a allai fod yn drosglwyddadwy iawn i'r sector hwn.

Bydd yr adborth yn llywio strategaethau yn y dyfodol i sicrhau bod busnesau Cymru, yn enwedig busnesau bach a chanolig, mewn sefyllfa dda i gefnogi datblygiad sector ynni gwynt ar y môr ledled Cymru. Y nod yw cynyddu cyfranogiad mewn gosod, adeiladu, gweithgynhyrchu a gwasanaethau cymorth. Ysgogi twf economaidd, gwaith teg, a hyrwyddo nodau sero net ac ynni adnewyddadwy.

Mae esboniad manwl o ymgysylltiad y farchnad, disgrifiad o becynnau gwaith ac is-becynnau, gwerthoedd pecyn amcangyfrifedig, llinellau amser a chyfleoedd i'w gweld yn y Briff .

 

Bydd yr arolwg yn cau am 5pm ddydd Gwener, 25 Ebrill 2025.

Cyflwynwch eich ymateb trwy'r ddolen arolwg ar-lein .
RHANNU AR