Roedd yr ymweliad yn nodi ymweliad cyntaf Mr Maier â'r safle a bu'n gyfle i ddysgu mwy am gynllun ynni llanw Morlais a'i botensial i ddarparu ynni glân, adnewyddadwy i'r grid. Yn ystod yr ymweliad, cafodd Mr Maier daith dywys o amgylch y safle a'i gyflwyno i aelodau allweddol o dîm Morlais. Roedd yr ymweliad yn canolbwyntio ar arddangos y cynnydd a wnaed hyd yma ac amlygu uchelgeisiau’r prosiect i gefnogi twf y sector ynni llanw yng Nghymru a thu hwnt.
Roedd yr ymweliad hefyd yn cynnwys diweddariad ar y gwaith sy'n cael ei wneud fel rhan o'r Prosiect Ymchwil i Nodweddion Morol (MCRP) - prosiect sy'n casglu data amgylcheddol hanfodol i gefnogi datblygiad parth Morlais a phrosiectau ynni morol eraill yn y dyfodol.
Dywedodd John Idris Jones, Cadeirydd Menter Môn Morlais:
“Roeddem yn falch iawn o groesawu Juergen Maier i’r safle a chael y cyfle i rannu ein cynnydd a’n cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Mae ei ddiddordeb ym Morlais a’r sector ynni morol yn gadarnhad cryf o’r gwaith sy’n cael ei wneud yma yn Ynys Môn i yrru ynni adnewyddadwy ac arloesi yn ei flaen.”

Roedd yr ymweliad yn rhan o drafodaeth bord gron gyda rhanddeiliaid allweddol yn y sector llanw a drefnwyd gan Ynni Morol Cymru.
Rheolir Morlais gan Menter Môn Morlais Ltd, is-gwmni i fenter gymdeithasol Menter Môn. Fel un o'r safleoedd ynni llanw mwyaf yn Ewrop y rhoddwyd caniatâd ar ei gyfer, mae'r prosiect ar fin chwarae rhan sylweddol wrth helpu Cymru i gyrraedd ei thargedau sero-net tra'n creu cyfleoedd economaidd gwerthfawr i'r ardal leol.
Mae Menter Môn Morlais wedi derbyn cefnogaeth a chyllid gan Lywodraeth Cymru, NDA (Awdurdod Datgomisiynu Niwclear), Uchelgais Gogledd Cymru a Chyngor Sir Ynys Môn.
Dydd Mercher 16eg Ebrill